Thursday 25 August 2011

Fawr o dro tan gost am fag

Mewn ychydig dros fis Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno tâl am fagiau siopa untro.

Yn sgil hyn rydym yn gobeithio y caiff 90% yn llai o fagiau siopa eu dosbarthu yng Nghymru. Ar sail y ffigurau hyn rydym yn disgwyl i'r tâl godi rhwng £2 filiwn a £3 miliwn yn ystod y flwyddyn gyntaf. Ni fydd y llywodraeth yn cael enillion y tâl. Bydd manwerthwyr yn rhoi'r arian hwn yn syth i achosion da yng Nghymru, rhai sy'n ymwneud â'r amgylchedd os yw'n bosibl.

Cyhoeddwyd ein huchelgais i godi tâl am fagiau siopa am y tro cyntaf yn 2007 ac ers hynny rydym wedi cynnal dau ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater hwn. Rydym wedi gweithio'n agos yn ddi-baid gyda manwerthwyr a chymdeithasau masnach fel Consortiwm Manwerthu Prydain, Ffederasiwn Busnesau Bach, CBI ac eraill i ddatblygu ein tâl ar gyfer bagiau siopa untro.

Ym mis Gorffennaf y llynedd, cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd na fyddai'r manwerthwyr sy’n cyflogi llai na 10 o bobl yn gorfod cadw cofnodion am y tâl.
Rydym wedi gweithio'n agos gyda manwerthwyr Cymru ac ym mis Mawrth eleni dosbarthwyd pecynnau i esbonio prif elfennau'r tâl ac ateb cwestiynau mwyaf cyffredin manwerthwyr. Caiff pecyn dilynol ei anfon at dros 40,000 o fanwerthwyr yn ddiweddarach y mis hwn.
Mae gwefan arbennig sy'n ymwneud yn benodol â'r tâl ar gael i fanwerthwyr a'r cyhoedd. Gall manwerthwyr ddefnyddio'r wefan i ddarllen ein canllawiau ynghylch Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010.
Bydd ein hymgyrch bosteri a lansiwyd yn gynharach y mis hwn yn helpu i sicrhau bod pawb yn barod am y tâl. Mae'r posteri i'w gweld yng ngorsafoedd trên ac ar fysiau ledled Cymru. Bydd yr ymgyrch yn para nes y bydd y tâl gofynnol o 5c yn cael ei gyflwyno ar ddydd Sadwrn 1 Hydref.

Meddai John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy: "Rwy'n falch mai Cymru sy'n arwain y ffordd yn y DU drwy gyflwyno'r tâl. Bydd hyn yn sicrhau bod pobl yn meddwl ac yn siarad am y problemau sy'n gysylltiedig â bagiau siopa untro. Mae bagiau o'r fath yn wastraff o adnoddau, yn creu sbwriel ac yn arwydd o gymdeithas wastraffus."

"Cyhoeddwyd ffigurau'n ddiweddar yn dangos bod pobl Cymru wedi defnyddio 7% yn llai o fagiau siopa dros y flwyddyn ddiwethaf. Ond rwy'n hyderus y bydd y tâl am fagiau siopa yn ein helpu i leihau'r defnydd o fagiau siopa. Rwy'n gobeithio y bydd ffigurau'r flwyddyn nesaf yn is fyth.”