Thursday 15 March 2012

Lansio gweledigaeth ynni Cymru

Rhyddhau’r ynni yn ein moroedd, gwneud yn siwr bod y biliynau rydyn ni’n ei fuddsoddi yn creu swyddi, helpu busnesau i wneud y mwyaf o gyfleoedd a gofalu bod cymunedau yn elwa ar ddatblygiadau ynni. Dyma rai o’r ymrwymiadau yng ngweledigaeth ynni Llywodraeth Cymru.
Dydd Mercher 14 Mawrth 2012

Wrth lansio ‘Ynni Cymru’, dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, y gallai maes ynni fod yn gyfle euraid i Gymru.

Ymhlith yr ymrwymiadau mae:

Gweithio i wneud i bob punt a fuddsoddir mewn ynni gyfrannu at economi a chyfoeth hirdymor Cymru.
Gwella’r gyfundrefn cynllunio a chydsynio.
Gweithio i sefydlu gwell seilwaith ynni.
Canolbwyntio ar gael y gwerth mwyaf posibl o’r prosiectau ynni mwyaf proffidiol megis effeithlonrwydd ynni a rhaglen Ynys Ynni Môn, sy’n cynnwys yr orsaf pŵer niwclear newydd.
Helpu busnesau Cymru i allu cystadlu am gontractau ynni i sicrhau’r nifer mwyaf o swyddi a’r manteision economaidd mwyaf.
Datblygu gweithlu Cymru i ddiwallu angenion y diwydiant drwy fynediad i brentisiaethau o ansawdd uchel, rhaglenni Sgiliau Twf Cymru a Twf Swyddi Cymru a thrwy wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg yn ein hysgolion.
Sicrhau y gall cymunedau gael gafael ar gyngor, arbenigedd ac arian er mwyn iddynt ddefnyddio ynni adnewyddadwy.
Tynnu ynghyd yr arbenigedd sylweddol yng Nghymru i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o ran gweithgarwch arloesi, ymchwil a datblygu i ryddhau’r ynni yn ein moroedd ac arwain y ffordd at fyw’n ddoeth.

Dywedodd y Prif Weinidog: "Mae ynni yn faes sy’n diffinio ein cenhedlaeth; mae’n faes yr wyf am inni arwain arno fel Llywodraeth. Ein nod yw creu economi carbon isel sy’n ein harwain i ddyfodol llewyrchus yng Nghymru. Ar bob cam o’r ffordd, mae’n rhaid inni ofalu bod Cymru yn manteisio i’r eithaf ar y potensial o ran swyddi a datblygiadau economaidd hirdymor. Mae hwn yn amcan arbennig o bwysig yn yr hinsawdd economaidd bresennol.

"Does dim dwywaith bod newid hinsawdd a diogelu ffynonellau ynni yn mynd i fod yn her. Ond mae’r heriau hyn hefyd yn gyfle euraid i Gymru i arwain y ffordd i greu economi carbon isel a gosod y sylfeini ar gyfer dyfodol gwell a gwneud y gorau o’r manteision hirdymor i Gymru bob cam o’r ffordd.

"Y llynedd, roedd y sectorau ynni adnewyddadwy a charbon isel yn cynnal 29,000 o swyddi yng Nghymru. Dw i am weld y ffigur hwn yn cynyddu a gweld cymaint â phosibl o’r 250,000 o swyddi ychwanegol sy’n cael eu rhagweld yn sector ynni’r DU yn dod i Gymru yn y blynyddoedd nesaf. Mae busnes yn hanfodol i’n hynni ac i’n dyfodol economaidd. Ein nod fydd adeiladu ar enw da Cymru – a gweithio mewn partneriaeth â diwydiant – i sicrhau ein bod nid yn unig yn croesawu cydweithio, ond ein bod yn cael ein cydnabod unwaith yn rhagor fel canolfan ynni fyd-eang. Rydyn ni’n gwybod bod yn rhaid inni greu amgylchedd sefydlog ar gyfer buddsoddiad hirdymor yn ogystal â helpu ein diwydiannau ynni-ddwys hanfodol yn y cyfnod hwn o newid."

Dywedodd John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd: "Mae Cymru, fel gweddill y byd, yn gweithio’n galed i gymryd y cam tuag at ynni carbon isel, mwy cynaliadwy. Mae’n hanfodol ein bod ni’n gwneud hyn mewn ffordd sy’n sensitif i anghenion ein cymunedau, yn creu swyddi lleol a chynaliadwy, ac yn cefnogi economi ehangach Cymru. Fel llywodraeth rydyn ni wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth – gyda sectorau preifat, cyhoeddus a chymdeithasol – i wneud hyn yn realiti."

No comments:

Post a Comment